Graddiodd Stephen o Brifysgol Caerdydd yn 2003 ac mae’n dod a blynyddoedd o brofiad proffesiynol.
Mae wedi cwblhau hyfforddiant arbenigol mewn Rhagnodi Annibynnol, Golwg Gwan a Glawcoma. Mae hyn yn ei alluogi i ddarparu gofal a thriniaeth uwch ar gyfer amrywiaeth eang o gyflyrau llygaid. Mae hefyd yn cynnig gwasanaeth cartref, gan ddod â gofal llygaid proffesiynol yn uniongyrchol at gleifion sydd yn gaeth i’r tŷ.